PEG logo
  • Ewch i’n safleoedd rhwydweithio cymdeithasol
  • facebook
  • twitter

Arrow_PartnershipLlwyddo yng Ngwynedd yw'r enw ar brosiectau'r Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru yng Ngwynedd. Y Cynllun Datblygu Gwledig yng Nghymru yw'r mecanwaith y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei ddefnyddio i gynnal gweithgareddau sy'n cefnogi cefn gwlad a chymunedau gwledig, gan annog rheolaeth ar amaethyddiaeth a'r amgylchedd.

Daeth y cynllun yn weithredol yn 2009, o dan arweiniad Partneriaeth Economaidd Gwynedd oedd yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol a gweledigaeth gychwynol ar gyfer y gwaith ac Is Grŵp Datblygu Gwledig Gwynedd sydd yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y prosiect, ac Adran yr Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd sydd yn gyfrifol am gydlynu'r gweithgareddau.

Mae'r Cynllun Datblygu Gwledig wedi ei rannu i ddau gyfnod Cynllunio Busnes rhwng 2007-2013. Yng Ngwynedd cafodd Cynllun Busnes 1 ei redeg rhwng Ionawr 2009 ac Mawrth 2011 o dan y faner Llwyddo yng Ngwynedd. Trwy'r cyfnod cyntaf yng Ngwynedd cafodd 4 o brosiectau ei gweinyddu sef:-

Mae Llwyddo yng Ngwynedd eisoes yn gwneud gwahaniaeth yma yng Ngwynedd, gwelwch yr astudiaethau achos i weld enghreifftiau o unigolion a busnesau lleol sydd eisoes wedi cymryd mantais o'r cymorth sydd ar gael drwy gronfa Llwyddo yng Ngwynedd.


    Rhannwch y dudalen hon gyda'ch ffrindiau:

     

    Llwyddo Yng Ngwynedd

    Gwynedd Ar Y Cyd / Gwynedd Together Cyngor Gwynedd / Gwynedd Council Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymrul / Tourism Partnership Wales Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru / Tourism Patnership Mid-Waes Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg yng Nghwynedd / Promoting the Welsh language in Gwynedd Bwrdd Yr Iaith Gymraeg - The Welsh Language Board Leader LCC / WAG