Cais am Aelodaeth Partneriaeth Economaidd Gwynedd
Mae Aelodaeth Partneriaeth Gwynedd yn agored i unigolion sydd yn gweithio a/ neu yn byw yng Ngwynedd, ac i bob sefydliad o’r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol sydd gyda rôl i chwarae mewn cyflawni amcanion y Bartneriaeth.
Trwy fod yn aelod o’r Bartneriaeth byddech yn derbyn diweddariadau cyson ar waith PEG, cael y cyfle i gyfrannu tuag at ddatblygiad prosiectau a strategaethau PEG, derbyn gwahoddiadau cyson i ddigwyddiadau a gweithdai a gaiff eu cynnal gan PEG a chael y cyfle i ymuno â grwpiau gwaith PEG. Petaech yn dymuno gwneud hynny.
Mae ymuno â’r Bartneriaeth yn hawdd; dim ond llenwi’r ffurflen isod sydd raid!