Tîm Ewropeaidd Arbenigol Gwynedd
Hyd at 2013 bydd Gwynedd yn derbyn y lefel uchaf o gymorth ariannol gan
yr Undeb Ewropeaidd trwy law’r Rhaglen Cydgyfeiriant.
Mae Tîm Ewropeaidd Gofodol (TEG)
Gwynedd yn cynnig cefnogaeth i grwpiau cymunedol, grwpiau gwirfoddol,
busnesau a chyrff cyhoeddus lleol yng Ngwynedd er mwyn eu helpu i wneud
yn siŵr eu bod yn manteisio i’r eithaf o’r arian
sydd ar gael.
Mae TEG Gwynedd yn rhan o
bartneriaeth y mae Llywodraeth y Cynulliad yn arwain arni gyda
chynghorau lleol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Gall TEG Gwynedd eich helpu drwy:
- rannu gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf a’r cyfleodd sydd ar gael
- helpu prosiectau i ddod o hyd i gyfleoedd cyllido addas
- helpu
i sicrhau arian i syniadau lleol o’r cyfleoedd tendro
sy’n deillio o gynlluniau mawr
- eich cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth ddefnyddiol
Am
ragor o wybodaeth am waith TEG Gwynedd a’r Rhaglen
Cydgyfeiriant, neu i weld os gall eich cynllun chi elwa drwy gyfleoedd
cyllido Ewropeaidd, cysylltwch â TEG Gwynedd ar 01286 679 343
neu TimEwropeaiddGofodol@gwynedd.gov.uk
Am fwy o wybodaeth am y Timau Ewropeaidd Gofodol ledled Cymru, ewch i wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
|
Rhannwch y dudalen hon gyda'ch ffrindiau:
|