Mae'r wefan hon yn cael ei diweddaru gan Ysgrifenyddiaeth Partneriaeth Economaidd Gwynedd, sef Adran yr Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd.
Preifatrwydd
Mae’n rhaid i chi gael sicrwydd er mwyn cael yr hyder i roi gwybodaeth breifat i ni drwy ddefnyddio ffurflenni ar-lein ar y wefan hon. Mae’n bwysig i ni, pan fyddwch yn dewis gwneud, bod eich preifatrwydd yn cael ei warchod bob amser, a’n bod ni yn ymddwyn mewn ffordd glir a chyfrifol.
Mae gwarchod eich gwybodaeth bersonol yn hynod bwysig – yr unig amser y byddwn angen yr wybodaeth yma fydd i ddarparu gwasanaethau a chreu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau eraill yn y dyfodol.
Mae unrhyw wybodaeth bersonol rydych yn ei roi i ni yn cael ei gadw mewn cronfeydd data sydd yn berchen i naill ai Cyngor Gwynedd neu gorff mae'r Cyngor yn ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaeth(au) ar lein ar ei ran.
Os na fydd gofyn drwy gyfraith - ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol i gwmnïau, busnesau neu unigolion.
Diddymu tanysgrifiad bwletinau gwybodaeth/ Diddymu aelodaeth
Os ydych yn dymuno peidio derbyn bwletinau gwybodaeth, neu yn dymuno diddymu eich Aelodaeth; cysylltwch â'r Ysgrifenyddiaeth os gwelwch yn dda drwy gysylltu:
Ffôn: 01286 679 343
E-bost: peg@gwynedd.gov.uk