PECYNNU'R PROFIAD
Bydd y prosiect hwn yn darparu cymorth i gymunedau lleol wella a manteisio ar amgylchedd, naws a rhinweddau arbennig eu bro er mwyn datblygu pecynnau newydd o brofiadau i ymwelwyr yn seiliedig ar yr asedau hyn. Bydd cefnogaeth ymarferol ac ariannol (hyd at £10,000 @80%) yn cael ei ddarparu i 15 ardal yn y sir adnabod, datblygu a marchnata’u cymuned i ymwelwyr. Bydd yr ardaloedd yn cael eu dewis drwy law proses cystadleuol agored.
Pwynt Cyswllt: Owain Wyn, Consortiwm Rhif Deg, 01286 662906 / owainwyn@globalnet.co.uk
Gweithredir y cynllun gan Gonsortiwm Rhif Deg ar ran Partneriaeth Economaidd Gwynedd.