Marchnad Cynnyrch Lleol - Porthmadog
Bydd marchnad cynnyrch lleol newydd yn cael ei lawnsio yn Porthmadog Ddydd Sadwrn 11.12.2010. Bydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Celfyddydau Porthmadog ger yr harbwr rhwng 9:30 y bore ac 4:00 y prynhawn, bydd y farchnad yn cael ei agor gan seren leol ac arbenigydd garddio S4C Russ Jones. Wedi'r lawnsiad bydd y farchnad yn cael ei chynnal ar Ddydd Sadwrn olaf pob mis.
Mae'r farchnad yn fenter ar y cyd gan Llwyddo yng Ngwynedd: Cynnig Gwynedd - Cynnyrch Lleol ac Gwynedd Gynaliadwy, yn dilyn galw gan bobl a chynhyrchwyr lleol i sefydlu marchnad cynnyrch lleol yn y dref.
Yn ogystal a lansio'r farchnad, bydd digwyddiadau tymhorol eraill yn cael ei cynnal gan gynnwys arddangosfa goginio gan y gogyddes teledu Nerys Howell, gweithdai garddio gyda Russ Jones, a sesiwn flasu caws gyda Geraint Hughes, Y Bwtri.
Yn ogystal a chwrdd a amryw o gynhyrchwyr, bydd gan ymwelwyr y farchnad gyntaf hon yn cael cyfle i gyfarfod a Sion Corn - a bydd y 200 o ymwlewyr cyntaf i'r farchnad yn derbyn pecyn am ddim o gynnyrch lleol ac taleb o £5 i'w gwario yn y farchnad cynnyrch lleol.
Ymhlith y cynhyrchwyr fydd yn y farchnad mae'r cynhyrchwyr cig moch Traed Moch o Benllyn, Oinc Oink, Yr Ardd Fadarch Nantmor ar bragwyr Mws Piwso Borthmadog.
Yn y lle cyntaf bydd y farchnad yn rhedeg am gyfnod arbrofol tan ddiwedd 2011 ond mae'r trefnwyr yn hyderus bydd y farchnad yn boblogaidd gyda defnyddwyr a chynhyrchwyr lleol ac y bydd yn parhau i'r dyfodol.
Datganiad i'r wasg Marchnad Cynnyrch Lleol (148 KB)
Rhaglen Marchnad Cynnyrch Lleol (4.84 MB)
