MENTRO
Cyfle i sbarduno mentergarwch ymhlith grwpiau neu unigolion sydd erioed wedi mentro o’r blaen. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys:
- Sesiynau i sbarduno syniadau am fentrau newydd.
- Cymorth i ddatblygu sgiliau mentergarwch
- Bwrsariaeth o hyd at £3,000 (@ 80%) er mwyn treialu neu gychwyn menter newydd i roi’r sgiliau yma ar waith.
Gweithredir y cynllun gan gwmni Menter a Busnes ar ran Partneriaeth Economaidd Gwynedd.
Pwynt Cyswllt: 01248 672672 neu Sion.Hughes@menterabusnes.co.uk
NODER: Mae cronfa fwrsariaeth Mentro bellach wedi’i glustnodi yn llawn ac o ganlyniad wedi cau. Mi fydd y gwaith ehangach o weithio gyda’r grwpiau targed i ddatblygu ysbryd mentrus yn parhau fodd bynnag.