|
Cyfnod gweithredol y cynllun : 2003 - 2007
Lansiwyd cynllun MENTERRA yn 2003 gyda phecyn cyllido o £2.6m drwy raglen
Amcan Un, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Prifysgol Cymru
Bangor a Chyngor Gwynedd. Roedd yn gynllun peilot tair blynedd uchelgeisiol ac
arloesol, sydd bellach wedi ei ymestyn hyd Medi 2007, gyda’r nod o ddatblygu
cnydau a phlanhigion newydd, ynghyd a rhai traddodiadol a chynhenid.
Mae MENTERRA wedi cael ei reoli a’i gydlynu gan Cyngor Gwynedd a’r nod oedd
cysylltu gwaith ymchwil academaidd mewn cynnyrch a nwyddau gyda photensial
cyfleoedd prosesu a marchnata. Mae’r prosiect wedi cydweithio gyda ffermwyr i
ddatblygu’r mentrau newydd ac arloesol yma, er mwyn eu galluogi yn y dyfodol i
gynhyrchu a marchnata’r nwyddau, gyda’r nod o osod sylfaen i ddatblygu
cyfleusterau prosesu, fel y bo economi Gwynedd yn elwa o’r datblygiadau ar
ffermydd oddimewn i’r sir.
Defnyddiwyd rhan o’r gronfa i sefydlu’r Ganolfan Arlosesi-Amaeth newydd yn
Henfaes, Abergwyngregyn, ac mae’r prosiect wedi gweithredu mewn partneriaeth
gyda 3 sefydliad arall oddimewn i’r sir:-
-
Yr Ysgol Gwyddorau Amaeth a
Choedwigaeth (sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Ysgol yr Amgylchedd ac
Adnoddau Naturiol) Prifysgol Cymru Bangor, oedd yn gyfrifol am y gwaith ymchwil
a datblygu gwyddonol
-
Cymad yn cysylltu gyda ffermwyr lleol
-
BIC Innovation yn gyfrifol am wneud arolwg o’r farchnad a masnacheiddio
cynnyrch newydd.
|

Menterra yn Sioe Frenhinol Cymru

Menterra yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 2005 |