Llwyddo Yng Ngwynedd
Llwyddo yng Ngwynedd yw'r enw ar brosiectau'r Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru yng Ngwynedd. Y Cynllun Datblygu Gwledig yng Nghymru yw'r mecanwaith y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei ddefnyddio i gynnal gweithgareddau sy'n cefnogi cefn gwlad a chymunedau gwledig, gan annog rheolaeth ar amaethyddiaeth a'r amgylchedd.
Daeth y cynllun yn weithredol yn 2009, o dan arweiniad Partneriaeth Economaidd Gwynedd oedd yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol a gweledigaeth gychwynol ar gyfer y gwaith ac Is Grŵp Datblygu Gwledig Gwynedd sydd yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y prosiect, ac Adran yr Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd sydd yn gyfrifol am gydlynu'r gweithgareddau.
Trwy'r ail gyfnod Cynllunio Busnes mae'r rhaglen wedi'i rannu yn bedwar prosiect sy'n cynnig gwahanol fathau o gymorth a all fod yn allweddol er mwyn helpu busnesau lleol ffynnu:-
Pamffled Llwyddo yng Ngwynedd Leaflet (1.01 MB)
Am fwy o wybodaeth, cliciwch y ddolen ganlynol i fynd i'r dudalen wê:
Llwyddo yng Ngwynedd
Cynllun Busnes 1 (2009-2011)
I weld prosiectau'r cyfnod cyntaf, ewch i
Gweithgareddau Blaenorol