CYNNIG GWYNEDD
Prosiect allweddol sy’n anelu at ryddhau potensial economaidd cymunedau gwledig trwy hyrwyddo elfennau unigryw Gwynedd, sef ansawdd yr amgylchedd a chynnyrch lleol, a gwella effeithlonrwydd cadwyni cyflenwi lleol. Mae’r cynllun hefyd yn edrych ar hyrwyddo’r cynnyrch yma, ynghyd â bywyd gwyllt, diwylliant a threftadaeth arbennig y sir drwy gyfres o bwyntiau gwybodaeth arloesol, a digwyddiadau creadigol.
Mae’r dulliau o gefnogi mentrau, galluogi busnesau presennol i arallgyfeirio, a datblygu syniadau arloesol yn cael ei ategu gan brosiect Cynnig Gwynedd.
Mae Theatrau y Gwyllt yn cael eu datblygu o fewn tair ardal, a bydd cyfle i gymunedau sydd wedi’u dethol i farchnata eu hasedau naturiol, hynny yn:-
- Gwaith Powdwr, Penrhyndeudraeth
- Uwchmynydd
- Cwm Idwal
Mae dilyniant parhaol i’r digwyddiadau hefyd yn cael eu datblygu.
Mae 12 cymuned sydd wedi’u dethol gan y Bartneriaeth yn derbyn cymorth i farchnata eu hasedau naturiol a diwylliannol drwy bwyntiau gwybodaeth technegol, ac wedi’u cefnogi gan wefan arloesol newydd www.darganfodgwynedd.com. Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth dymhorol am y mannau arbennig y gellir ymweld â nhw ac ar gyfer darganfod cyfoeth bywyd gwyllt Gwynedd; cefnogir hyn gan wybodaeth am deithiau cerdded bywyd gwyllt, llwybrau beicio, lleoliadau gwylio bywyd gwyllt, digwyddiadau, gweithgareddau a gweithdai, ynghyd â gwybodaeth am ddiwylliant a hanes yr ardaloedd. Y gobaith yw, fodd bynnag, y bydd y pynciau hyn yn ehangu a datblygu gyda mewnbwn pellach gan bobl leol gan ddefnyddio eu cyfoeth o brofiadau a gwybodaeth. Mae’r prosiect yn ysbrydoli trigolion lleol tra hefyd yn gweithredu i estyn croeso cynnes i ymwelwyr sydd yn wirioneddol am Ddarganfod Gwynedd yn ei holl ogoniant.
Gweithredir gan gwmni Annog Cyf, ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran Partneriaeth Economaidd Gwynedd.
Pwynt Cyswllt Cynnyrch Lleol: 01766 514057 neu Mirain@annog.com.
Pwynt Cyswllt Pwyntiau Gwybodaeth a Theatr y Gwyllt: 01286 685462 neu eluned@caban-cyf.org