CYMUNEDAU CYNALIADWY
Prosiect arloesol fydd yn torri tir newydd yn datblygu iechyd economaidd a safon bywyd yng nghymunedau gwledig Gwynedd mewn ffordd gynaliadwy. Bydd y cynllun yn darparu cefnogaeth ddwys i bump o gymunedau peilot yn y sir er mwyn:-
- Cynnal awdit o’u hasedau ffisegol, naturiol a diwylliannol
- Bwrsariaeth gwerth £3,500 (@ 100%) i’r 5 Cymuned i gomisiynu astudiaeth dichonoldeb
- Cymorth i ddatblygu syniadau
- Cymorth ariannol (uchafswm o £80,000 @ 80% i bob cymuned) ar gyfer gweithredu’r syniadau
Bwriad y cynllun yw datblygu cynlluniau i gynyddu cynaladwyedd hirdymor eu bro gan gynyddu gallu pobl leol i barhau i fyw a gweithio yn yr ardal drwy, er enghraifft; rannu asedau cymunedol, darganfod dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau, datblygu cyfleoedd gwaith lleol, ayyb.
Pwynt Cyswllt: Sioned Morgan, Swyddog Echel 4 Cynllun Datblygu Gwledig, 01286 679628 / sionedmorgan@gwynedd.gov.uk
Taflen Cymunedau Cynaliadwy / Sustainable Communities Leaflet (1.77 MB)