Beth yw PEG?
Mae Partneriaeth Economaidd Gwynedd (PEG) yn Bartneriaeth agored a chynhwysol sy’n atebol i’w aelodaeth. Mae aelodaeth PEG yn agored i unigolion sy’n byw neu’n gweithio yng Ngwynedd ac i sefydliadau gyda diddordeb yn nyfodol yr ardal. Mae gan PEG dros gant o aelodau.
Gweinyddir y Bartneriaeth gan Ysgrifenyddiaeth PEG. Mae’r gwaith yma yn cael ei gyflawni gan Gwasanaeth Strategaeth a Datblygu, Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd.

Ffigwr 1: Strwythur Partneriaeth Economaidd Gwynedd
Mae aelodau PEG yn ethol Grŵp Llywio pob tair blynedd. Mae aelodaeth y Grŵp Llywio yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sectorau preifat, gwirfoddol, cyhoeddus a chymunedol. Etholir Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Bartneriaeth o blith aelodau’r Grŵp Llywio.
I ddarparu cyngor a mewnbwn arbenigol i’r Grŵp Llywio mae gan PEG nifer o Is-Grwpiau, sef yr Is-Grŵp Datblygu Gwledig, Is-Grŵp Sgiliau (Grŵp Sgiliau Gwynedd, Môn a Chonwy) a'r Is-Grŵp Busnes (Tîm Rheoli Cefnogi Busnes Gwynedd).