ARLOESI
Cynllun sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrosesau arloesol o fewn busnesau gwledig a theuluoedd fferm. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys cymorth i ddatblygu syniadau, mae grantiau o hyd at £11,250 (@100%, 75% neu 50%), hynny o fewn y meysydd Amaethyddiaeth, Arallgyfeirio o Amaethyddiaeth ac Amgylcheddol.
Mae’r gefnogaeth yn cynnwys:
- Cefnogaeth i ddatblygu syniadau a’u troi’n fentrau masnachol
- Ymchwil i’r farchnad ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau newydd
- Cronfa i gomisiynu gwaith rheoli datblygu technegol a chynllunio busnes manwl
Gweithredir y cynllun gan gwmni BIC Innovation ar ran Partneriaeth Economaidd Gwynedd.
Pwynt Cyswllt: 01248 671101 neu
Huw.Watkins@bic-innovation.com